#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-806 Teitl y ddeiseb: Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Testun y Ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno "Tystysgrif Mynediad" yn dangos rhifau o ddim i bump yn yr
un modd â'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Dylid asesu pob adeilad
a ddefnyddir gan y cyhoedd fel siopau, siopau bwyd, clybiau
chwaraeon, tafarndai a swyddfeydd, yn ogystal â gwasanaethau
trafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl pa mor hygyrch pa mor hygyrch
ydynt i gadeiriau olwyn, yn ogystal â pha mor hawdd ydynt i
rywun sydd â nam ar y synhwyrau neu anabledd dysgu eu
defnyddio. Pan gyflwynwyd Tystysgrifau Hylendid Bwyd gyntaf yng Nghymru, nid oeddent yn orfodol, ond fe ddaethant yn orfodol yn ddiweddarach. Ers cyflwyno'r Dystysgrif Hylendid Bwyd, rydym yn credu bod safonau bwyd wedi gwella'n helaeth ac mae safleoedd sydd â rhif uchel yn arddangos eu tystysgrifau â balchder. Rydym yn credu y bydd safleoedd yn gwneud mwy o ymdrech i wella mynediad a gwasanaethau i'r gymuned anabl pe bai Tystysgrif debyg ar gyfer mynediad yn cael ei chyflwyno. Rydym yn credu y bydd cyflwyno
tystysgrif o'r fath yn gwella'n aruthrol y gwasanaethau i siopwyr
anabl a'r rheini sydd eisiau mynd allan am ddiod neu bryd o fwyd,
neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sef cyfleusterau y mae'r
rhan fwyaf yn eu cymryd yn ganiataol. |
Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Mae'r ddeiseb hon yn trafod y cynllun sgorio hylendid bwyd presennol fel model y gellid ei fabwysiadu i gyflawni nod y deisebwyr.
Roedd Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru. Daeth i rym ym mis Tachwedd 2013. Roedd y cynllun yn adeiladu ar gynllun anstatudol oedd yn bodoli a oedd yn cael ei weithredu gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Cafodd y cynllun anstatudol ei ddatblygu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd mewn ymgynghoriad â diwydiant, defnyddwyr a rhanddeiliaid awdurdodau lleol a'r nod oedd darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr ar safonau hylendid busnesau bwyd.
Caiff safleoedd eu harolygu gan swyddogion o'r awdurdod lleol y mae'r busnes wedi'i leoli ynddo. Yna, caiff y safonau hylendid a ganfyddir ar adeg yr arolygiad ei sgorio ar raddfa o 0 i 5. Sgôr o 5 yw'r uchaf, sy'n golygu bod y safonau hylendid yn dda iawn. Mae sgôr o 0 yn golygu bod angen gwella ar frys.
Pan fydd gweithredwr sefydliad busnes bwyd yn cael hysbysiad o'i sgôr hylendid bwyd, rhaid i'r gweithredwr arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd a ddarperir. Mae'r Rheoliadau yn nodi lle dylid arddangos y sticer fel ei bod yn weladwy.
Rheoliadau Adeiladu – mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt
Mae un agwedd o'r ddeiseb hon yn ymwneud â mynediad i adeiladau. Mae Rhan M o'r Rheoliadau Adeiladu yn ymwneud â Mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt. Mae Dogfen Gymeradwy M (Mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt) yn rhoi canllawiau ar sut i fodloni'r gofynion hynny. Mae Rhan M yn gymwys os caiff adeilad annomestig neu annedd newydd ei adeiladu. Mae hefyd yn gymwys pan fydd adeilad annomestig presennol yn cael ei ymestyn, neu'n cael ei addasu'n sylweddol. Yn ogystal, mae'n cynnwys rhai sefyllfaoedd lle mae adeilad presennol yn newid defnydd yn sylweddol. Hyd yn oed heb y Rheoliadau Adeiladu, mae goblygiadau wedi'u rhoi ar ddarparwyr gwasanaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ystyried rhwystrau sy'n cael eu creu gan nodweddion ffisegol mewn adeiladau.
Deddf Cydraddoldeb 2010 – addasiadau rhesymol
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi dyletswydd ar ddarparwyr nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau i wneud addasiadau rhesymol er mwyn osgoi person anabl rhag cael ei roi mewn 'anfantais sylweddol' o gymharu â pherson nad yw'n anabl wrth gael mynediad i wasanaethau a chyfleusterau.
Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhagnodi beth yw addasiad rhesymol, mae'n rhaid penderfynu ar hynny yn ôl amgylchiadau penodol pob achos unigol.
O dan Adran 20 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i ddarparwyr gwasanaeth gael dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer person anabl yn y ffordd maent yn darparu eu gwasanaethau. Mae hyn er mwyn sicrhau nad oes gan berson anabl anfantais sylweddol o gymharu â pherson nad yw'n anabl yn cael yr un gwasanaethau. Mae'r ddyletswydd yn cynnwys tri gofyniad:
§ Newid y ffordd y gwneir pethau (mae'r Ddeddf yn cyfeirio at le mae darpariaeth, meini prawf neu arfer yn rhoi person anabl o dan anfantais sylweddol);
§ Gwneud newidiadau i oresgyn rhwystrau a gaiff eu creu gan nodweddion ffisegol safleoedd darparwyr gwasanaeth (mae'r Ddeddf yn cyfeirio at le mae nodwedd ffisegol yn rhoi person anabl o dan anfantais sylweddol); neu
§ Darparu cymhorthion a gwasanaethau ychwanegol fel darparu offer ychwanegol neu ddarparu gwasanaeth gwahanol neu ychwanegol (mae'r Ddeddf yn cyfeirio at le y byddai person anabl, heb y cymorth ategol, o dan anfantais sylweddol).
§ Gall yr hyn a ystyrir fel addasiad rhesymol i sefydliad mawr, fel banc, fod yn wahanol i'r hyn sy'n addasiad rhesymol i siop fach annibynnol. Dylai addasiad rhesymol fod yn ymarferol yn sefyllfa unigol y darparwr ac yn ôl yr adnoddau y gallai fod gan y busnes. Ni fydd rhaid i'r darparwr gwasanaeth wneud addasiadau nad ydynt yn rhesymol gan eu bod yn anfforddiadwy neu'n anymarferol.
Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Ar 31 Ionawr 2018, cynhaliwyd dadl fer dan arweiniad Suzy Davies AC o'r enw Agor drysau: sicrhau eglurder ynghylch mynediad i bobl anabl ac argaeledd diffibrilwyr. Roedd y ddadl yn tynnu sylw at y ddeiseb hon a rhai o'r materion sy'n deillio ohoni gan gynnwys yr heriau y byddai unrhyw gynllun yn wynebu.
Wrth ymateb i'r ddadl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, “ mewn egwyddor, mae peth rhinwedd i'r syniad, ac rwy'n croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau ymarferol a sut y gallai cynllun o'r fath weithio”. Aeth yn ei flaen i ddweud:
Mae angen inni hyrwyddo trafodaeth onest ac agored […] rhwng grwpiau anabledd, unigolion, y sector busnes, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector er mwyn deall beth y credwn sydd ei angen a beth y credwn sy'n bosibl, boed hynny drwy system sgoriau ar ddrysau neu drwy ddulliau eraill, i ystyried yr opsiynau a beth yw'r cyfle gorau i wneud rhywbeth ymarferol er mwyn gwella hygyrchedd ac ymwybyddiaeth ohono yn ogystal.
Camau gan Lywodraeth Cymru
Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip - sy'n gyfrifol am gydraddoldeb - fod rhinwedd i'r cynllun a gynigir gan y deisebwyr a'i bod yn gefnogol iawn i'r egwyddorion y tu ôl i'r cynnig.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |